DATGANIAD YSGRIFENEDIG

GAN

LYWODRAETH CYMRU

 

 


TEITL

 

Cyfarfod y Grŵp Rhyngweinidogol ar Gysylltiadau rhwng y DU a'r UE – 06 Mawrth 2024

DYDDIAD

12 Mawrth 2024

GAN

Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi

 

 

Yn unol â'r Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol, rwy'n hysbysu'r Aelodau fy mod wedi mynychu cyfarfod o'r Grŵp Rhyngweinidogol ar Gysylltiadau rhwng y DU a'r UE ar 11Medi 2023. 

 

Cadeiriwyd y cyfarfod gan Leo Docherty AS, Gweinidog Llywodraeth y DU dros Ewrop yn y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu (FCDO). Hefyd yn bresennol roedd Gweinidogion o'r Alban a Gogledd Iwerddon: Angus Robertson ASA, Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth yr Alban dros y Cyfansoddiad, Materion Allanol a Diwylliant; Michelle O'Neill, MLA, Prif Weinidog Gogledd Iwerddon; ac Emma Little-Pengelly, MLA, dirprwy Brif Weinidog Gogledd Iwerddon.

 

Cynhaliwyd y cyfarfod i baratoi ar gyfercyfarfod nesaf Cyngor Partneriaeth y DU-UE o dan y Cytundeb Masnach a Chydweithrediad a Chyd-bwyllgor y Cytundeb Ymadael (WAJC), y disgwylir i'r ddau gael eu cynnal yn gynnar yn 2024.

 

Rydym yn falch bod y gwaith o baratoi'r cyfarfodydd hyn wedi gwella.

 

Rhoddodd y cyfarfod gyfle defnyddiol i mi amlinellu nifer o faterion pwysig sydd gan Lywodraeth Cymru i'w datblygu yn ystod y misoedd nesaf. 

 

·         Ein dymuniad i Lywodraeth y DU gynnwys y Llywodraethau Datganoledig mewn cyfarfodydd a'u paratoi i elwa i'r eithaf ar effeithiolrwydd gweithrediad y Cytundeb Cydweithredu Masnach (TCA).

 

·         Yr angen am gytundeb ar gydnabyddiaeth ar y cyd ar asesiadau cydymffurfio.

 

·         Pwysigrwydd cadw trefniadau Digonolrwydd Data'r UE. 

 

·         Ein pryderon parhaus ar reolau mewnforio'r UE sy'n effeithio ar allforio molysgiaid dwygragennog byw.

 

Cafodd y Cylch Gorchwyl wedi'i ddiweddaru ar gyfer y Grwp Rhyngweinidogol hwn ei gymeradwyo yn y cyfarfod.

 

 

Nid yw'r cyfarfod nesaf o'r Grwp Rhyngweinidogol ar Gysylltiadau rhwng y DU a'r UE wedi'i drefnu eto, ac nid oes unrhyw agenda wedi'i chymeradwyo hyd yma.